Portffolio gwefannau

Troedio Reflexology

Gwasanaeth Adweitheg Troedio

Gwefan ymatebol i wasanaeth Adweitheg wedi ei leoli yng Nghaernarfon.  Cyflwynwyd gwybodaeth mewn ffordd hygyrch. Er enghraifft gwnaed defnydd helaeth o “toggles”, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ffonau symudol cael gafael ar wybodaeth heb orfod sgrolio’n ormodol. Gwefan Gwasanaeth Adweitheg Troedio

Glen Devon Residential Home

Cartref Preswyl Glen Devon

Gwefan ymatebol i cartref preswyl Glen Devon yn Rhyl. Defnyddiwyd nifer helaeth o ddelweddau er mwyn dal ysbryd y cartref. Cynhwysir blog yn y dudalen newyddion, gyda’r cyfraniadau diweddaraf yn ymddangos ar y dudalen hafan. Gwefan Cartref Preswyl Glen Devon

Waterwise Marine Training

Hyfforddiant Waterwise Marine

Gwefan ymatebol i gwmni wedi ei leoli ym Mhorthmadog, sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol i jet sgiwyr a defnyddwyr cychod pŵer. Cyflwynwyd gwybodaeth ar ffurf “toggle” er mwyn cyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd hygyrch, gyda defnyddwyr ffonau symudol mewn golwg yn arbennig. Gwefan Waterwise Marine Training

PAWB People against Wylfa-B

Pobol Atal Wylfa-B

Gwefan WordPress oedd yn bodoli eisoes wedi ei ail-wampio i fod yn un ymatebol a hygyrch i cyflwyno dadleuon yn erbyn sefydlu pwerdy niwclear newydd yn y Wylfa, Ynys Môn. Yn cynnwys blog gyda’r cyfraniadau diweddaraf yn ymddangos yn ogystal ar y dudalen hafan. Gwefan Pobl Atal Wylfa-B

Podcast Pêl-droed

Podcast a blog poblogaidd am bêl-droed Rhygwladol Cymru. Mae’r wefan wedi ei newid i roi mwy o amlygrwydd i’r blog. Yr amcan oedd creu gwefan ymatebol bywiog sy’n hwyluso darganfod y podlediadau a cofnodion diweddaraf. Gwefan Podcast Pêl-droed

Sian Shakespear Associates

Cymdeithion Sian Shakespear

Gwefan hollol ddwyieithog ac ymatebol i fusnes bach sy’n cynnig gwasanaethau dehongli a chyfranogi yn y sectorau amgylcheddol a gwasanaethau cyhoeddus, a thu hwnt. Y cyfraniadau diweddaraf i ffrwd Twitter yn ymddangos ar y wefan. Gwefan Cymdeithion Sian Shakespear

Almair

Almair

Gwefan hollol ddwyieithog cwmni sy’n cyflenwi gwasanaethau ymgynghorol ym meysydd iechyd a diogelwch, rheoli digwyddiadau, datblygu busnes, a sicrhau nawdd o ffynonellau llywodraethol. Gwaith graffeg gan Roseinnesdesigns.com. Gwefan Almair

Forest School Wales

Ysgol Goedwig Cymru

Gwefan Ysgol Goedwig Cymru, yn cynnwys parth i aelodau yn unig, a llif o’r cyfraniadau diweddaraf gan Ysgol Goedwig Cymru i’w cyfrifon Facebook a Twitter. Mae map Google yn dangos lleoliad aelodau ar draws Cymru, y DU a thu hwnt. Gwefan Ysgol Goedwig Cymru