Pecynnau
Gwefan Un Dudalen
Delwedd drawiadol wrth frig y dudalen
Linciau i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Wedi ei optimeiddio i’r peiriannau chwilio
Ymatebol (addasu i faint sgrin)
Un blwch e-bost
Dwyieithog, gyda newid un clic o un iaith i’r llall
£200 + £100 gwe-letya blynyddol *
Gwefan hyd at 8 dudalen
Blog – Newyddion Diweddaraf
Map safle
Linciau i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Cyfraniadau diweddaraf o’ch cyfrif Twitter neu Facebook
Wedi ei optimeiddio i’r peiriannau chwilio
Ymatebol (addasu i faint sgrin)
Hyd at tri blwch e-bost
Dwyieithog, gyda newid un clic o un iaith i’r llall
dechrau o £500 + £100 gwe-letya blynyddol *
* Mae’r ffi blynyddol hwn yn cynnws cynnal a chadw’r wefan (diweddaru WordPress a meddalwedd cysylltiedig yn rheolaidd) a monitro diogelwch y wefan. Os nad yw’r pecynnau uchod yn ateb eich gofynion, gallaf gynnig dyfynbris i wefan wedi ei deilwra i’ch anghenion penodol. Gan fy mod yn gweithio o adref mae gen i orbenion isel, felly medrwch fod yn ffyddiog y bydd y pris yn gystadleuol. Dwi’n hapus i drafod y posibilrwydd o dalu am eich gwefan trwy randaliadau.
Eisiau cadw costau blynyddol i’r lleiafswm?
Rheolwch eich gwefan
Diweddaru’ch gwefan
A ydych am fedru diweddaru dudalennau sy’n bodoli eisoes neu ychwanegu neu diweddaru cofnodion blog, gan arbed pres ac amser yn y broses?
Medraf greu ddogfen sy’n esbonio gam wrth gam sut y gallwch ddiweddaru’ch gwefan arlein, trwy meddalwedd WordPress.
Gweinyddu gwesteio eich gwefan
Eisiau lleihau eich costau gwesteio blynyddol a chostau cofrestri enw’ch parth, drwy dalu’n uniongyrchol am y gwasanaeth?
Gallaf awgrymu gwmni fforddiadwy o safon uchel, a’ch helpu gyda’r broses o sefydlu’r cyfrif.
Neu Ymlaciwch
Gadewch i mi gymryd y straen
Os oes well ganoch hepgor y gwaith o ddiweddau’r gwefan eich hunan, neu reoli’r cyfrif gwesteio a chofrestru enw’ch parth, yna gadewch y cyfan i mi. Mae fy nghyfraddau gwesteio a chynnal a chadw yn gystadleuol iawn, gan helpu cadw’ch costau yn isel, y tu hwnt i’r dyddiad mae’r wefan yn fyw.
Dewis a Dethol
Efallai eich bod yn awyddus i ddiweddaru’ch gwefan eich hunan, ond nid ydych eisiau delio gyda gwesteio a cofrestri enw’ch parth? Gallwch dewis a dethol yr union cyfuniad o opsiynau sy’n cyfateb i’ch anghenion penodol chi.