Gwasanaethau

Optimeiddio i'r Peiriannau Chwilio

Mae creu gwefan yn hanner y frwydr. Nid yw gwefan prydferth o unrhyw werth os nad oes modd i bobl sydd â diddordeb yn eich nwyddau neu wasanaethau ei ddarganfod. “Search Engine Optimisation (SEO)” yw’r broses o deilwra cynnwys gwefan a sicrhau cyhoeddusrwydd iddi mewn modd sy’n creu’r cyfle gorau posib i’r wefan ymddangos yn uchel ar restrau’r peiriannau chwilio. Pan rwy’n adeiladu gwefannau rwyf yn gwneud hynny mewn modd sy’n plethu gofynion SEO i strwythur y wefan. Mae hyn yn cynnwys danfon gwybodaeth am y wefan i’r prif beiriannau chwilio er mwyn i’r wefan gael ei restru. Os yw eich busnes neu wasanaeth yn un neilltuol o arbenigol, dylai SEO sylfaenol fod yn ddigonol i sicrhau canlyniadau boddhaol. Gyda gwasanaethau llai arbenigol, a busnesau gydag ystod cwsmeriaid mwy llydan, bydd angen gwaith ychwanegol i sicrhau safle uchel yn y canlyniadau chwilio. Lle mae angen gwaith SEO ychwanegol, medraf adnabod swm penodol o waith sydd wedi ei deilwra i’ch sefyllfa arbennig chi, bydd yn mireinio cynnwys y wefan gogyfer gofynion SEO. Bydd hyn yn cynyddu’r siawns fod eich gwefan yn perfformio’n dda yn rhestrau chwilio Google, Bing a pheiriannau chwilio eraill. Gall gwaith SEO cynnwys y canlynol:
  • Ysgrifennu neu addasu’r wefan i facsimeiddio’r defnydd o allweddeiriau, yn enwedig y rhannau o strwythur eich gwefan y mae’r peiriannau chwilio yn blaenoriaethu wrth benderfynu ba mor uchel mae tudalen yn ymddangos yn y rhestrau chwilio.
  • Adnabod gwefannau allanol all cynnig linciau i’ch gwefan, gan gynnwys cyfeiriaduron rhad ac am ddim, a rai sy’n codi tâl, a chreu cofnodion ynddynt.
  • Creu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Twitter, Facebook, Google+, a LinkedIn, a’ch cynghori sut i gyhoeddi cynnwys yn y cyfryngau hyn ac ar eich gwefan bydd yn helpu perfformiad eich gwefan yn y peiriannau chwilio. Gallaf greu tudalennau busnes ar Facebook a Google+ ar eich cyfer yn ogystal.
  • Eich cynghori ar y posibiliadau o hyrwyddo eich gwefan trwy wasanaethau hysbysebion rydych yn talu amdanynt, megis Google Ads. Gallaf osod unrhyw hysbysebion rydych wedi ei llunio.

Gwesteio ("Hosting")

Mae pob gwefan yn cynnwys casgliad o ffeiliau html, testun, delweddau a ffeiliau cyfrwng arall. Pan rydych yn ymweld â gwefan mae’r ffeiliau hyn yn cael eu trosglwyddo i’ch porwr ar eich dyfais o weinydd – sef math o gyfrifiadur wedi ei neilltuo i ddosbarthu ffeiliau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gan gwmni gwesteio, sy’n codi ffi fisol neu flynyddol am ei gwasanaeth. Gallaf gynnig atebion hyblyg i’ch anghenion gwesteio:
  • Gallaf argymell gwmni gwesteio dibynadwy a chost isel (neu medrwch ddynodi un o’ch dewis) ac yna rydych yn archebu a thalu am y gwasanaeth yn uniongyrchol, o ganlyniad yn cadw eich costau gwesteio i’r isafswm. Byddai’r gost o osod y wefan ar y gweinydd yn gynwysedig yn y dyfynbris am y wefan.
  • Fel arall, efallai bod gwell ganoch fy mod yn delio a phob dim, gan gynnwys taliadau i’r cwmni gwesteio. Mae fy ffioedd blynyddol am weinyddu eich cyfrif gwesteio a delio gyda chofrestru enw’r parth o’ch dewis yn rhesymol iawn.
Dyluniad neilltuol i chi wedi ei optimeiddio i’r peirannau chwilio