Amdanaf

Graddiais ym maes Daeareg cyn gwneud gwaith ymchwil yn Norwy. Yna trosglwyddais i faes cyfrifiadureg yng Ngogledd Lloegr. Ar ôl nifer o flynyddoedd yn gwethio i gwmni yn Bradford dychwelais i fy ngwreiddiau yng Nghymru yn 2002. Wrth ofalu am deulu ifanc, dechreuais ddatblygu gwefannau i fusnesau bach lleol, elusennau a sefydliadau nid-am-broffid. Gan fod y plant bellach wedi tyfu fyny mae gen i fwy o amser i ddatblygu gwefannau i ystod lydan o gwmnïoedd a sefydliadau, ond yn enwedig busnesau sy’n cychwyn, a phobl sy’n gweithio ar liwt eu hunain sy’n awyddus i ddatblygu eu busnesau.

Rwyf yn rhugl yn y Gymraeg, sydd yn hwyluso’r broses o greu gwefannau dwyieithog, gan sicrhau bod eich gwasanaethau yn cael eu cyflwyno i ystod more lydan a phosib o ddefnyddwyr. Er bod y mwyafrif o fy nghwsmeriaid wedi eu lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru mae rhai yn dod o rannau eraill Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Rwyf yn mwynhau proses creadigol wrth gyd-weithio gyda fy nghwsmeriaid, ac rwyf wastad yn ymdrechu i wireddu eich dyheadau wrth i chi gyflwyno eich nwyddau a gwasanaethau i’r byd. Mae’r awydd ynof i greu gwefannau atyniadol a llwyddiannus yn cael ei adlewyrchu yn y sefyllfa lle mae cyfran helaeth o fy ngwaith wedi dod ataf trwy gymeradwyaeth lafar.

Wyn James
Gwefannau allwch chi eu diweddaru