Polisi Preifatrwydd
Pwrpas y Polisi hwn
Mae’r polisi hwn yn disgrifio pa wybodaeth bersonol a pham mae Pedryn yn casglu’r wybodaeth, wrth i chi delio â ni, ac wrth i chi bori neu ddefnyddio’r wefan hon. Mae’r polisi’n disgrifio sut mae’r wybodaeth bersonol honno’n cael ei defnyddio, yr amodau lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i Pedryn ei datgelu i eraill, a sut mae’n cael ei chadw’n ddiogel.
Casglu Data Personol
O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) rydym yn rheoli a / neu’n prosesu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch yn electronig gan ddefnyddio’r seiliau cyfreithlon canlynol.
Sail gyfreithlon: Contract
Ein pwrpas ar gyfer prosesu yw: casglu, storio a / neu ddefnyddio manylion cyswllt i alluogi Pedryn i ddarparu gwasanaethau i chi, a chael taliadau am y gwasanaethau hynny sydd wedi’u darparu. Os na allwch ddarparu gwybodaeth bersonol hanfodol efallai na allwn ddarparu’r gwasanaethau yr ydych am eu comisiynu. Efallai y bydd Pedryn yn casglu’ch manylion cyswllt pan fyddwch chi’n:
- Cysylltu â Pedryn dros y ffôn
- Cysylltu â Pedryn trwy e-bost
- Datgelu gwybodaeth gyswllt yn bersonol
- Datgelu eich manylion cysylltu cynadledda fideo
- Cyflwyno ffurflen gyswllt o’r wefan hon
- Cysylltu â Pedryn trwy Twitter
Sylwch nad yw ffurflen Gyswllt Pedryn yn cadw cyfeiriadau IP na data llinyn asiant defnyddiwr eich meddalwedd pori. Nid yw Pedryn yn defnyddio sustemau gwneud penderfyniadau awtomataidd a / neu broffilio defnyddwyr.
Sy’n angenrheidiol oherwydd: ni fyddai’n bosibl cyflawni ein contract gyda chi, neu’n cyflawni gweithredoedd, ar eich anogaeth, cyn gwneud contract, heb fod Pedryn yn casglu gwybodaeth bersonol. Pan ddewiswch roi eich manylion personol i ni, bydd y data personol a ddarperir gennych i Pedryn yn cael ei ddefnyddio’n unig ar gyfer darparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cyfnod cadw data: Byddwn yn parhau i brosesu eich gwybodaeth o dan y sail hon tan ddiwedd y contract sydd gennym gyda chi, a / neu penderfynir nad oes angen eich gwybodaeth arnom mwyach. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd eich data naill ai’n cael ei ddileu neu ei anonymeiddio.
Rhannu eich gwybodaeth: Nid yw Pedryn yn gwerthu nac yn rhannu eich manylion personol (fel eich cyfeiriad e-bost) â busnesau eraill at ddibenion marchnata neu ddibenion eraill, ac ni fydd eich manylion cyswllt na gwybodaeth bersonol arall yn cael eu defnyddio er budd ariannol. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol nad oes ei angen arnom er mwyn darparu ein gwasanaethau.
Efallai y bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i Pedryn ddatgelu eich data personol i asiantaethau gorfodaeth cyfraith, neu gyrff rheoleiddio, os gwneir cais dilys yn gyfreithiol.
Cwcis
Disgrifir ein defnydd o gwcis yn llawn yn ein tudalen Polisi Cwcis.
Dolenni a noddir, olrhain cysylltiedig a chomisiynau
Nid yw ein gwefan yn cynnwys hysbysebion na dolenni noddedig a chysylltiedig. Fodd bynnag, rydym yn arddangos eitemau cyfryngau cymdeithasol o’n cyfrif Twitter. Mae Twitter yn darparu eu gwasanaethau ar sail eu polisïau preifatrwydd a chwcis. Dim ond os dewiswch “Derbyn Pob Cwcis” yn y faner a ddangosir wrth droed y wefan y bydd eitemau ffrwd Twitter yn cael eu harddangos.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch defnydd Twitter o’ch data yna gallwch ddewis peidio â chlicio ar y botwm “Derbyn Pob Cwcis”.
Diogelu’ch Data Personol
Mae Pedryn yn defnyddio mesurau diogelwch a gweithdrefnau rheoli priodol i ddiogelu’r wybodaeth a gasglwn gennych, ac i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei chyrchu’n anghyfreithlon neu ei cholli. Rydym yn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym trwy ddefnyddio technolegau storio data diogel a gweithdrefnau diogel wrth storio, cyrchu a rheoli’r wybodaeth honno.
Mynediad i’ch Gwybodaeth Bersonol
O dan y GDPR mae gan unigolion hawliau y gellir eu harfer yn rhad ac am ddim. Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn fanwl yma, ond i grynhoi mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol;
Hawl i gael eich hysbysu | Mae gan unigolion yr hawl i gael eu hysbysu fod eu data personol yn cael eu casglu a’u defnyddio. |
Hawl i weld | Yr hawl i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol |
Hawl i Gywiro | Yr hawl i fynnu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn |
Hawl i Ddileu | Yr hawl i fynnu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu, mewn rhai amgylchiadau. Gelwir hefyd yn “yr hawl i gael eich anghofio”. |
Hawl i Gyfyngu ar brosesu | Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol, mewn rhai amgylchiadau, megis os ydych chi’n herio cywirdeb y data |
Hawl i Mudo Data | Yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i ofyn am gopi o wybodaeth bersonol a gedwir yn electronig fel y gallwch ei hailddefnyddio mewn systemau eraill |
Hawl i wrthwynebu |
|
Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomataidd unigol, na phroffilio | Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy’n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd (gan gynnwys proffilio) sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol mewn perthynas â chi, neu’n effeithio’n sylweddol arnoch chi |
Os ydych am arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â Wyn James ar (+44) 07517 603047 neu e-bostiwch post@pedryn.cymru gyda’ch cais. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth adnabod i gadarnhau pwy ydych chi a dilysu’ch cais.
Cysylltu â’r Rheoleiddiwr
Os ydych yn anfodlon gyda’n hymateb i unrhyw geisiadau a wnaed gennych ynghylch y defnydd o’ch data personol, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio y DU – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â nhw ar-lein trwy: www.ico.org.uk/concerns neu trwy’r ffôn: 0303 123 1113.
Pwy yw Pedryn?
Pedryn yw enw masnachu busnes dylunio gwe Wyn James, Bryn Meddyg, Pentir, Bangor, LL57 4UY.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, y data sydd gennym amdanoch chi, neu yr hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Pedryn gan ddefnyddio’r cyfeiriad post uchod, neu gysylltu â ni trwy:
Ebost: post@pedryn.cymru
Teleffôn: 07517 603047
Diwygiwyd y polisi hwn ddiwethaf ar 27/07/2020 ac mae’n cael ei adolygu’n gyson. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd am ddiweddariadau.