Cwmni sydd o hyd yn cynnig gwasanaeth hynod o drylwyr, effeithiol a chywir, a hynny mewn ffordd cwrtais a ddi-lol.
Alan Gwynant, Almair
Wyn o gwmni Pedryn sydd wedi bod yn gyfrifol am fy ngwefan o’r cychwyn cyntaf a mae ei wasanaeth wastad wedi bod yn brydlon a thrwyadl tu hwnt. Mae ganddo amynedd dibendraw pan yn delio hefo fy llu cwestiynau pitw man ac yn bwrw iddi gydag ewyllys da, er mwyn cael y maen i’r wal a chynhyrchu gwefan sy’n cael ei edmygu’n fawr gan nifer o fy nghydymgymerwyr.
Sian Shakespear, Sian Shakespear Associates
Mae Pedryn yn rhoi gwasanaeth effeithiol a chefnogaeth ddi-ffwdan sy’n cynnig tawelwch meddwl bob amser.
Elinor Gwynn, blog Cymru Wyllt